Mae gosod panel solar ffotofoltaidd yn ffordd gyflym a hawdd o fod yn annibynnol ar ynni. Er y gall y dechnoleg ymddangos ychydig yn frawychus, nid yw'r broses o osod Solar PV sy'n cynhyrchu ynni ar gyfer eich cartref neu'ch busnes i gyd mor gymhleth â hynny.
Dyma ganllaw syml:
Dim canolfannau galwadau gyda ciwiau hir. Dim ond cyswllt lleol i sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth rydych ei heisiau ar unwaith.
Os ydych chi awydd mynd gam ymhellach fe ddown draw i gynnal arolwg cyn anfon pris cystadleuol atoch.
Mi ddown ni draw i lofnodi'r gwaith papur a threfnu dyddiad gosod cyfleus.
Bydd tîm o weithwyr proffesiynol yn cyrraedd i osod eich paneli Solar PV newydd sbon, gan arbed arian i chi ar unwaith!
Ar ôl cwblhau'r gosod, byddwn yn dangos sut mae'r system yn gweithio a thrafod gwarantau.
Yn ystod ac ar ôl gosod byddwn bob amser yma os oes gennych unrhyw ymholiadau am eich gosodiad.