Mae PEN Solar yn gwmni lleol, wedi ei leoli yng ngogledd Cymru ac yn cynnig gwasanaeth gosod Solar PV hyd a lled yr ardal. Mae'n bwysig gennym ni ein bod yn cefnogi'r economi leol drwy ddefnyddio nwyddau, gwasanaethau a busnesau lleol. Mae gennym un llinell ffôn gyswllt ac os nad ydych yn cael gafael arnom ar hwnnw'n syth, gadewch neges a mi ddown yn ôl atoch yn syth. Ni fydd angen i chi fod mewn ciw hir o alwadau!
Gweithwyr cydwybodol, o safon, sydd yn gwneud busnes yn llwyddiannus. Dyna pam bod systemau pv PEN Solar yn cael eu gosod gan bobl broffesiynol, cymwys sydd yn hen lawiau ar y gwaith. Mant yn bobl sydd â balchder yn eu gwaith ac ym mhopeth y maen nhw'n ei wneud. Mi fydd y bobl bwysig hyn yn sicrhau ein bod ni fel cwmni yn gosod eich system solar pv ar y diwrnod a drefnwyd ac i'r safon uchaf.
Mae pob system PEN Solar PV yn defnyddio paneli solar, offer trydanol arbenigol, cêbls ac ati, sydd â thystysgrifau a nodau ansawdd cyfredol. Maent â gwarant llawn fel y byddwch yn dawel eich meddwl at y dyfodol. Bydd gwybodaeth technegol ar bob eitem a ddefnyddir yn eich system solar pv, yn ogystal â darlun schematic o'r system, yn cael ei gyflwyno i chi ar derfyn y gwaith o'i osod mewn Pecyn Trosglwyddo cynhwysfawr.
Wedi i ni drosglwyddo'r system i'ch gofal, rydym yn hyderus y bydd yn gweithio'n gwbl ddi-drafferth ac na fydd angen i chi gysylltu â ni eto. Ond peidiwch â bod yn swil o ffonio neu gysylltu os ydych eisiau cyngor ar unrhyw beth. Os nad ydym yn gallu ffonio'n ôl yn syth mi ddown i gysylltiad yn fuan iawn. Pwy a ŵyr, gan ein bod yn gwmni lleol hwyrach y byddwn yn pasio beth bynnag a mi biciwn acw i'ch gweld!