Gosodiadau PV Solar Sylfaenol
Mae systemau solar PV, sy'n troi pelydrau'r haul yn drydan y gellir ei ddefnyddio, yn bethau eithaf syml yn y bôn ac yn amrywio o leoliad i leoliad yn dibynnu ar anghenion y defnyddiwr.
At ei gilydd, mae paneli pv solar yn troi egni'r haul yn gerrynt trydan DC. Mae hwnnw wedyn yn cael ei anfon i uned o'r enw 'gwrthdröydd' sy'n ei drosi i drydan AC (y trydan 240v y mae pobl yn aml yn cyfeirio ato fel trydan 'prif gyflenwad' neu, yn Saesneg 'mains'). Mae hyn wedyn yn mynd i brif flwch ffiws y tŷ/safle busnes sydd wedyn yn cael ei ddosbarthu allan i blygiau a system oleuadau'r adeilad.
Ar ei symlaf mae'n gweithio fel hyn:
1. Oddi ar y grid
Er enghraifft:
Carafan mewn lleoliad anghysbell
Bloc neu weithdy sefydlog yn rhy bell o dŷ i warantu rhedeg cebl
Cwch allan ar y môr.
Dychmygwch system hollol annibynol, ar ei phen ei hun, oddi ar y grid. Dim cysylltiad i'r grid cenedlaethol. Mae'r system yn cynhyrchu trydan yn ystod oriau golau dydd ac yn pweru cyfarpar y lleoliad.
Fodd bynnag, yn ystod y nos ni fydd trydan yn cael ei gynhyrchu! Bryd hynny fe fyddai system storio batri yn cael ei defnyddio (mwy ar hyn yn is i lawr y dudalen).
2. System ar-grid
Enghraifft: Cartref teulu, bloc swyddfa, uned ddiwydiannol, ysgol, siop ac ati
Yn amlach na pheidio, mae system pv solar yn cael ei osod lle mae cyflenwad trydan grid yn barod ac mae'n helpu i leihau biliau. Mae'r pv solar yn pweru'r tŷ neu'r busnes yn ystod y dydd. Ond pe bai'n ddiwrnod mwll a chymylog mae'r system yn defnyddio trydan o'r grid fel cyflenwad wrth gefn. Yn ystod y nos, pan nad yw'r paneli'n cynhyrchu unrhyw beth, mae'r tŷ neu'r eiddo busnes yn defnyddio trydan grid.
Ond beth os yw'n ddiwrnod braf, heulog a'r paneli'n cynhyrchu'n llawn a'r tŷ'n wag neu bod y busnes ar gau am ba bynnag reswm? Mae unrhyw drydan sy'n cael ei gynhyrchu gan y paneli sydd ddim yn cael ei ddefnyddio yn cael ei anfon yn uniongyrchol i'r grid cenedlaethol. Am y trydan hwnnw gall y perchennog y system gael taliad amdano. Mae manylion am y Gwarant Allforio Smart (SEG) i'w gael yma:
SEG – Smart Export Guarantee
3. System ar-grid gyda batris
Enghraifft: Cartref teuluol, bloc swyddfa, uned ddiwydiannol, ysgol, siop ac ati lle mae deiliaid allan yn ystod y dydd. Neu rhywle sydd angen trydan yn ystod y nos.
Bydd y gyfradd rydych chi'n ei chael ar gyfer allforio uned o bŵer o dan y cynllun yr SEG yn debygol o fod yn llawer llai na'r swm rydych chi'n ei dalu am uned o bŵer gan eich cwmni trydan. Felly, os ydych chi'n cynhyrchu mwy o drydan nag ydych chi'n ei ddefnyddio yn ystod y dydd, efallai y byddwch chi'n teimlo eich bod yn gallu arbed mwy drwy beidio â'i allforio, ac yn ei gadw, er mwyn osgoi talu am drydan yn ystod y nos. Felly fe fyddai gosod batris i storio'r ynni yn gweithio'n dda i helpu pweru'r adeilad yn y nos. Mae'r opsiwn hwn yn gwneud i chi ddod hyd yn oed yn llai dibynnol ar drydan o'r grid. Ond os oes angen mwy o bŵer arnoch yn y nos, a dim ar ôl yn eich batris, mae'r system yn troi'n syth at ddefnyddio trydan o'r grid.
Rhag ofn eich bod yn pendroni ac eisiau gofyn:
Pa mor hir mae paneli solar pv yn para?
Mae gan ein holl Baneli PV Solar:
12 mlynedd o warant cynnyrch
Gwarant perfformiad 25 mlynedd.
Mae paneli solar yn colli tua 0.6% o'u heffeithlonrwydd bob blwyddyn. Felly bydd panel 25 oed yn cynhyrchu 15% yn llai o bŵer nag un newydd. Ond mae panel budr hyd yn oed yn llai effeithlon! Felly mae'n syniad da eu glanhau unwaith y flwyddyn er eu bod yn tueddu i fod yn glanhau eu hunain yn sgil y ffaith eu bod allan yn y tywydd.
Gwrthdröyddion – gwarant 10 mlynedd y gellir ei ymestyn
Batris – gwarant o 10 mlynedd
Gwaith gosod – Yswiriant 2 flynedd wedi'i gefnogi gydag yswiriant IWA - a gellir ei ymestyn i 5 mlynedd.