Gosodiadau PV Solar Sylfaenol
Mae systemau solar PV, sy'n troi pelydrau'r haul yn drydan y gellir ei ddefnyddio, yn bethau eithaf syml yn y bôn ac yn amrywio o leoliad i leoliad yn dibynnu ar anghenion y defnyddiwr.
At ei gilydd, mae paneli pv solar yn troi egni'r haul yn gerrynt trydan DC. Mae hwnnw wedyn yn cael ei anfon i uned o'r enw 'gwrthdröydd' sy'n ei drosi i drydan AC (y trydan 240v y mae pobl yn aml yn cyfeirio ato fel trydan 'prif gyflenwad' neu, yn Saesneg 'mains'). Mae hyn wedyn yn mynd i brif flwch ffiws y tŷ/safle busnes sydd wedyn yn cael ei ddosbarthu allan i blygiau a system oleuadau'r adeilad.
Ar ei symlaf mae'n gweithio fel hyn:
1. Oddi ar y grid
Er enghraifft:
Carafan mewn lleoliad anghysbell
Bloc neu weithdy sefydlog yn rhy bell o'r tŷ i warantu rhedeg cêbl
Cwch allan ar y môr.
Dychmygwch system hollol annibynol, ar ei phen ei hun, oddi ar y grid. Dim cysylltiad i'r grid cenedlaethol. Mae'r system yn cynhyrchu trydan yn ystod oriau golau dydd ac yn pweru cyfarpar y lleoliad.
Fodd bynnag, yn ystod y nos ni fydd trydan yn cael ei gynhyrchu! Bryd hynny fe fyddai system storio batri yn cael ei defnyddio (mwy ar hyn yn is i lawr y dudalen).
2. System ar-grid
Enghraifft: Cartref teulu, bloc swyddfa, uned ddiwydiannol, ysgol, siop ac ati
Yn amlach na pheidio, mae system PV solar wedi'i gosod lle mae trydan grid prif gyflenwad eisoes ac yn helpu i leihau biliau. Mae'r PV solar yn pweru'r tŷ neu'r busnes yn ystod y dydd. Ond os yw'n ddiwrnod diflas, tywyll mae'r system yn defnyddio prif gyflenwad / trydan grid fel cyflenwad wrth gefn. Yn ystod y nos, pan nad yw'r paneli yn cynhyrchu unrhyw beth, mae'r tŷ neu safle busnes yn defnyddio pŵer prif gyflenwad / grid.
Ond beth os yw'n ddiwrnod braf, heulog a'r paneli'n cynhyrchu'n llawn a'r tŷ'n wag neu bod y busnes ar gau am ba bynnag reswm? Mae unrhyw drydan sy'n cael ei gynhyrchu gan y paneli sydd ddim yn cael ei ddefnyddio yn cael ei anfon yn uniongyrchol i'r grid cenedlaethol. Am y trydan hwnnw gall y perchennog y system gael taliad amdano. Mae manylion am y Gwarant Allforio Smart (SEG) i'w gael yma:
3. System ar-grid gyda batris
Enghraifft: Cartref teuluol, bloc swyddfa, uned ddiwydiannol, ysgol, siop ac ati lle mae deiliaid allan yn ystod y dydd. Neu rhywle sydd angen trydan yn ystod y nos.
Bydd y gyfradd rydych chi'n ei chael ar gyfer allforio uned o bŵer o dan y cynllun yr SEG yn debygol o fod yn llawer llai na'r swm rydych chi'n ei dalu am uned o bŵer gan eich cwmni trydan. Felly, os ydych chi'n cynhyrchu mwy o drydan nag ydych chi'n ei ddefnyddio yn ystod y dydd, efallai y byddwch chi'n teimlo eich bod yn gallu arbed mwy drwy beidio â'i allforio, ac yn ei gadw, er mwyn osgoi talu am drydan yn ystod y nos. Felly fe fyddai gosod batris i storio'r ynni yn gweithio'n dda i helpu pweru'r adeilad yn y nos. Mae'r opsiwn hwn yn gwneud i chi ddod hyd yn oed yn llai dibynnol ar drydan o'r grid. Ond os oes angen mwy o bŵer arnoch yn y nos, a dim ar ôl yn eich batris, mae'r system yn troi'n syth at ddefnyddio trydan o'r grid.
Rhag ofn eich bod yn pendroni ac eisiau gofyn:
Pa mor hir mae paneli solar pv yn para?
Mae gan ein holl Baneli PV Solar:
12 mlynedd o warant cynnyrch
Gwarant perfformiad 25 mlynedd.
Mae paneli solar yn colli tua 0.6% o'u heffeithlonrwydd bob blwyddyn. Felly bydd panel 25 oed yn cynhyrchu 15% yn llai o bŵer nag un newydd. Ond mae panel budr hyd yn oed yn llai effeithlon! Felly mae'n syniad da eu glanhau unwaith y flwyddyn er eu bod yn tueddu i fod yn glanhau eu hunain yn sgil y ffaith eu bod allan yn y tywydd.
Gwrthdröyddion – gwarant 10 mlynedd y gellir ei ymestyn
Batris – gwarant o 10 mlynedd
Gwaith gosod – Yswiriant 2 flynedd wedi'i gefnogi gydag yswiriant IWA - a gellir ei ymestyn i 5 mlynedd.